Y Pwyllgor Menter a Busnes

Ymchwiliad i Entrepreneuriaeth Ieuenctid.

 

Cefndir

Mae Cynllun Gweithredu'r Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid (YES) a lansiwyd ym mis Tachwedd 2010 yn adeiladu ar yr hyn y dangoswyd ei fod yn llwyddiannus o'r strategaeth wreiddiol a lansiwyd yn 2004, tra'n datblygu atebion i ddiwallu anghenion a galwadau newidiol a helpu i oresgyn heriau cyfredol.  Datblygwyd Cynllun Gweithredu YES 2010-15 ar y cyd â phartneriaid yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol ledled Cymru, yn dilyn proses ymgynghori helaeth yn ystod 2009-10.  Roedd cyfraniad rhanddeiliaid allweddol yn hollbwysig wrth lunio'r cynigion.

 

Mae hon yn strategaeth ar y cyd rhwng DEST ac AdAS  Mae'r cynllun hefyd wedi elwa ar gydweithredu ag adrannau eraill yn Llywodraeth Cymru a chyda phartneriaid a bydd yn parhau i ddatblygu meysydd o synergedd a nodwyd.

 

Mae Cynllun Gweithredu YES yn canolbwyntio ar bobl ifanc a sut y'u cymerir ar daith entrepreneuriaeth - gan godi eu hymwybyddiaeth, datblygu eu sgiliau entrepreneuraidd, tanio syniadau a darparu gwybodaeth a chymorth ymarferol i'r rhai sydd am gychwyn busnes.  Yn ogystal, bydd gan dair cynulleidfa strategol - addysg, busnes a'r gymuned - oll rôl hanfodol i'w chwarae i gefnogi pobl ifanc.

 

Dewiswyd YES gan Fforwm Economaidd y Byd fel enghraifft arfer da o strategaeth genedlaethol ym maes dysgu entrepreneuraidd.  Mae'n un o bedair astudiaeth achos a ddewiswyd fel arfer da.

 

Mae tair thema gyflawni:

 

·             Ymgysylltu - Hyrwyddo gwerth entrepreneuriaeth i greu cyfleoedd a datblygu pobl ifanc

·             Grymuso - Darparu cyfleoedd dysgu entrepreneuraidd i bobl ifanc.

·             Darparu - Helpu pobl ifanc i greu a thyfu busnesau.

 

Cylch Gorchwyl:

 

Ø   Pa mor effeithiol yw dull Llywodraeth Cymru o hyrwyddo entrepreneuriaeth ieuenctid?

 

Ø   Pa gamau y gellir eu cymryd i wella neu atgyfnerthu cefnogaeth i ddarpar entrepreneuriaid ifanc yng Nghymru?

 


 

1       Beth yw profiadau entrepreneuriaid ifanc yng Nghymru?

 

Mae'r adborth hyd yma o ran lefel y gefnogaeth a gynigir ar gyfer entrepreneuriaeth o dan raglen Twf Swyddi Cymru (gweler y disgrifiad yng nghwestiwn 2) wedi bod yn gadarnhaol. Mae pedwar maes cyflawni, ac un ohonynt yw "helpu pobl ifanc i ddod yn hunangyflogedig".  Gall bwrsari dewisol o £6000 gael ei roi i'r unigolyn i gychwyn busnes. Hyd yma mae 55 o bobl wedi manteisio ar y bwrsari hwn, a ragorodd ar y targed o 50 a bennwyd ar gyfer y flwyddyn gyntaf yn dod i ben ym mis Mawrth 2013. 

 

2       Beth yw maint adnoddau Llywodraeth Cymru a'r cyllid sydd wedi'i dargedu at hyrwyddo entrepreneuriaeth ieuenctid? A yw'n ddigon?

 

Mae mentergarwch a gweithgarwch entrepreneuraidd wedi'u hymgorffori mewn tri maes allweddol polisi addysg a darpariaeth ac maent ar gael i bob disgybl ysgol yng Nghymru, sef:

 

1       Gyrfaoedd a'r Byd Gwaith: fframwaith i bobl ifanc 11 i 19 oed yng Nghymru

2       Llwybrau Dysgu 14-19;

3       Bagloriaeth Cymru (Gweler isod).

 

Ysgolion sydd â'r cyfrifoldeb pennaf am ddarparu'r tri maes hyn a chynhwysir y ddarpariaeth yng nghyllid craidd ysgolion. Mae'r cyllid hwn heb ei neilltuo o ran cefnogaeth i fentergarwch ac entrepreneuriaeth.

 

Cyfanswm grant Llwybrau Dysgu 14-19 yw £62,500 ac fe'i defnyddir i gefnogi gweithgareddau Entrepreneuriaeth a Mentergarwch ledled Cymru yn 2013/14.

 

Cynllun £75m yw Twf Swyddi Cymru, sydd â'r nod o greu 12,000 o swyddi dros dair blynedd o ddarpariaeth i bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed.  Mae'n darparu pecyn o gefnogaeth i helpu pobl ifanc sy'n barod am swyddi i ddod o hyd i gyflogaeth am gyfnod o chwe mis, gan dalu'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu'n uwch na hynny am o leiaf 25 awr yr wythnos.

 

Mae rhaglenni eraill a weithredir drwy'r Ganolfan Byd Gwaith, a gynigir gan Ymddiriedolaeth y Tywysog ac adrannau eraill Llywodraeth Cymru, megis Adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (DEST) hefyd yn gysylltiedig â Twf Swyddi Cymru i wella'r gefnogaeth a roddir i unigolyn ar gyfer gyrfa ym maes entrepreneuriaeth.

 

Bagloriaeth Cymru

Mae Cymhwyster Bagloriaeth Cymru (CBC) yn cyd-fynd â chymwysterau presennol, yn eu hymgorffori ac yn eu hategu.  Bwriedir i'r cymhwyster baratoi myfyrwyr ar gyfer addysg uwch a chyflogaeth. Mae iddo ddwy elfen - yr Opsiynau a'r Craidd.  Rhaid i'r ddwy gael eu cwblhau'n llwyddiannus er mwyn dyfarnu CBC. Gall yr opsiynau gael eu dewis o ystod o gymwysterau academaidd neu alwedigaethol a gymeradwywyd i'w defnyddio gyda dysgwyr yng Nghymru.  Rhaid i bob myfyriwr gyflawni isafswm o'r cymwysterau opsiynau er mwyn cwblhau gofynion CBC.

 

Fel rhan o'r Craidd rhaid i bob dysgwr CBC gwblhau elfen Addysg Gysylltiedig â Gwaith.  Fel rhan o hyn rhaid i ddysgwyr gymryd rhan mewn Gweithgarwch Menter Tîm.  Mae hyn yn cynnwys 30 o Oriau Dysgu dan Arweiniad ar y Lefel Uwch a 15 ar y lefelau Sylfaen a Chanolradd a bwriedir i hyn helpu dysgwyr i ddeall sut mae busnesau'n gweithio a datblygu sgiliau entrepreneuraidd. Mae gan ddysgwyr ddewis o ran pa fath o weithgarwch a wnânt; gall fod yn Fenter Genedlaethol megis yr Her Buddsoddi i Fyfyrwyr, neu gallant ddewis sefydlu busnes, gan ddatblygu a gwerthu cynnyrch neu ddarparu gwasanaeth.

 

Argymhellodd yr Adolygiad o Gymwysterau i bobl ifanc 14-19 oed yng Nghymru y dylid datblygu Bagloriaeth Cymru ddiwygiedig a mwy trylwyr.    Argymhellodd yr Adolygiad o Gymwysterau hefyd y dylai'r cymhwyster diwygiedig fod wrth wraidd y system cymwysterau ar gyfer dysgwyr llawn amser 14 i 19 oed ac y dylai Llywodraeth Cymru annog pawb i fabwysiadu'r cymhwyster. Mae rhanddeiliaid allweddol yn gweithio gyda swyddogion yn awr i sicrhau bod Bagloriaeth Cymru ar ei ffurf ddiwygiedig yn gymhwyster cadarn o'r radd flaenaf, sy'n diwallu anghenion dysgwyr ac economi Cymru.

 

Dysgu Seiliedig ar Waith

Mae'r rhaglen Dysgu Seiliedig ar Waith yn cynnwys darparu Hyfforddeiaethau, Prentisiaethau a maes y sector preifat o Twf Swyddi Cymru. 

 

Ar gyfer manyleb y broses o ddarparu'r elfen Hyfforddeiaethau (ar gyfer pobl ifanc 16-18 oed), mae darparwyr wedi ymgorffori'r Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid (YES) yn eu darpariaeth. Rhoddwyd deunyddiau YES i ddarparwyr er mwyn addysgu sgiliau entrepreneuraidd fel modiwlau annibynnol.  Mae'r rhaglen Hyfforddeiaeth yn ymgorffori tri maes darparu: Ymgysylltu; Lefel 1 a Phont at Gyflogaeth.

 

Mae darparwyr hyfforddeiaethau yn chwilio am gyfleoedd i annog pobl ifanc i ystyried hunangyflogaeth fel opsiwn ac mae cymhwyster menter achrededig wedi ei gynnwys yn y rhaglen fel opsiwn.

 

Hyd yma, dyma'r niferoedd a aeth yn hunangyflogedig yn sgil rhaglen Hyfforddeiaeth 2011/12:

 

·             Ymgysylltu - 10

·             Lefel 1 - 15

 

Cyfanswm – 25

 

Bydd cyllid ar gyfer y rhaglen Hyfforddeiaeth, yn seiliedig ar broffiliau Darparwyr 2012/2013, yn cefnogi tua 7,500 o ddysgwyr 16-18 oed ac mae'n gyfystyr â chyfanswm buddsoddiad o tua £32.9 miliwn (gan gynnwys lwfansau hyfforddi) yn ystod blwyddyn y contract o 1 Awst 2012 i 31 Gorffennaf 2013.

 

Ar ben hynny, rhoddwyd pecynnau adnodd i bob un a oedd yn darparu rhaglenni Dysgu Seiliedig ar Waith.  Roedd y pecynnau hyn yn cynnwys gwybodaeth am ddatblygu sgiliau menter, ac fe'u dosbarthwyd i'r 25 o sefydliadau sy'n darparu'r rhaglenni Dysgu Seiliedig ar Waith ar gyfer Llywodraeth Cymru.

 

Athrawon ac Ysgolion

Cyflwynwyd safonau proffesiynol newydd o 1 Medi 2011. Lansiwyd gwefan Dysgu Cymru, gydag ystod o ddeunyddiau i gefnogi athrawon, ym mis Medi 2012.  Mae secondai sy'n arwain y gwaith o ddatblygu a dethol y deunyddiau i gefnogi datblygiad proffesiynol parhaus athrawon yn gweithio gydag ymarferwyr i nodi deunyddiau priodol. O fis Medi 2012 caiff y trefniadau sefydlu ar gyfer athrawon newydd gymhwyso (ANGau) eu hatgyfnerthu a bydd pob ANG yn gallu astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Ymarfer Addysgol.

 

Yn 2012 mae pob ysgol a choleg wedi bodloni gofynion y Mesur Dysgu a Sgiliau Cymru sy'n ei gwneud yn ofynnol i gynnig o leiaf 30 opsiwn i bob dysgwr ddewis ohonynt yng Nghyfnod Allweddol 4 ac ôl-16. Mae nifer o gyrsiau Entrepreneuriaeth ar gael ar Gronfa Ddata Cymwysterau Cymeradwy Cymru i'w defnyddio gan ysgolion a cholegau. Yn ogystal mae nifer o ysgolion a cholegau yn cynnig Astudiaethau Busnes/Cyfathrebu/Gweinyddu i fyfyrwyr yng Nghyfnod Allweddol 4 ac ôl-16.

 

Gyrfa Cymru

Cynhaliodd Gyrfa Cymru bedwar grŵp entrepreneuriaeth peilot gyda chleientiaid Porth Ieuenctid 16-18 oed yn 2010-12. Er bod y gwerthusiad a'r canlyniadau yn ymddangos yn gadarnhaol mae'r newid yng nghylch gwaith Gyrfa Cymru o fis Ebrill 2013 yn golygu na fydd Porth Ieuenctid bellach yn gweithredu.  Bwriedir i'r gwersi a ddysgwyd yn y grwpiau peilot hyn gael eu defnyddio'n effeithiol gyda'r rhaglenni Hyfforddeiaeth a fydd yn delio â chleientiaid o'r fath yn y dyfodol.

 

Adran Gwaith a Phensiynau [DWP)

Mae cynllun Lwfans Menter Newydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cynnig mentora cyfyngedig a lwfans ar gyfer unigolion sy'n cael Lwfans Ceisio Gwaith sydd am sefydlu busnes. Mae cyfranogwyr y Lwfans Menter Newydd hefyd yn gallu manteisio ar wasanaeth Sefydlu Busnes Llywodraeth Cymru.

 

Dechreuodd Rhaglen Waith yr Adran Gwaith a Phensiynau ym mis Medi 2011. Cytunwyd â Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru y gall cyfranogwyr y Rhaglen Waith gymryd rhan yn y cymorth cychwyn busnes a gynigir gan wasanaeth Cychwyn Busnes Llywodraeth Cymru.

 

3       Pa gynnydd a wnaed o ran gweithredu Strategaeth a Chynllun Gweithredu Entrepreneuriaeth Ieuenctid Llywodraeth Cymru?

 

Ymgysylltu – Rydym yn darparu gweithgareddau a digwyddiadau wedi'u targedu i ennyn diddordeb a chyfranogiad ym maes entrepreneuriaeth, yn enwedig i'r rheini sy'n ddi-waith neu'n economaidd anweithgar.

 

I'r perwyl hwn, mae entrepreneuriaeth wedi ei chynnwys yng ngofyniad contract y rhaglen Hyfforddeiaeth.  Mae hyn yn cynnwys opsiwn i ddilyn cymhwyster menter achrededig.

 

Hefyd, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau Ddatganiad Ysgrifenedig ym mis Ionawr 2013 ar y gwaith pontio o'r Cynllun Gweithredu Ymgysylltu a Chyflogaeth Ieuenctid cyfredol a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2011, i Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid. 

 

Mae'r Fframwaith yn cael ei ddatblygu ar sail anghenion pobl ifanc, gan atgyfnerthu atebolrwydd asiantaethau gwahanol yn y system ar gyfer sicrhau canlyniadau gwell i bobl ifanc.  Bydd Gweinidogion yn nodi'r gofynion i Awdurdodau Lleol ar gyfer gweithredu'r Fframwaith hwn o fis Medi eleni.

 

Yn ogystal, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau entrepreneuriaeth ar-lein a chanllawiau i ysgolion a phartneriaid eraill o ran rolau a chyfrifoldebau Gyrfaoedd a'r Byd Gwaith.  Cyhoeddwyd y canllawiau hyn ym mis Rhagfyr 2012.  Darparwyd gwybodaeth hefyd yng nghylchlythyr Dysg.  Mae'r canllawiau hyn yn nodi beth y dylai ysgolion ei ddarparu a'u cyfrifoldebau a rôl sefydliadau sy'n cefnogi'r ddarpariaeth megis Gyrfa Cymru.  Mae Gyrfa Cymru wedi cyflwyno papur ar wahân i'r ymchwiliad sy'n nodi'r math o wasanaethau a ddarparwyd ganddi rhwng 2001 a 2012.

 

Grymuso – mae cynnwys cymwysterau Sgiliau Allweddol Ehangach yn orfodol yn Gweithio gydag Eraill; Datrys Problemau; a Gwella'ch Dysgu a'ch Perfformiad eich Hun o fewn Bagloriaeth Cymru wedi golygu bod nifer sylweddol o ddysgwyr wedi datblygu a gwella'r sgiliau hyn sy'n cefnogi meddylfryd mwy effeithiol o ran mentergarwch ac entrepreneuriaeth.

 

Hefyd, mae holl ddysgwyr Bagloriaeth Cymru wedi cwblhau Gweithgarwch Menter Tîm gan ddatblygu priodoleddau a phrofiadau sy'n meithrin dulliau gweithredu mwy creadigol o ran dysgu a chyflogadwyedd, gan gynnwys cychwyn busnes.

 

4       Sut mae dull Llywodraeth Cymru o hyrwyddo entrepreneuriaeth ieuenctid yn ymgorffori materion fel cydraddoldeb, menter gymdeithasol ac amrywiadau rhanbarthol o ran cyfleoedd ar gyfer sgiliau a hyfforddiant?

 

Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i ymgorffori diwylliant entrepreneuraidd yng Nghymru drwy Gynllun Gweithredu YES, strategaeth AdAS a DEST ar y cyd. Mae YES yn hyrwyddo gwaith partneriaeth â phobl ifanc, busnesau, addysg a chymunedau yn weithredol a sefydliadau trydydd sector.

 

Cwblhawyd gwaith sgrinio ar gyfer Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb ar gyfer Twf Swyddi Cymru a'r rhaglen Hyfforddeiaeth.  Cyhoeddwyd yr asesiadau sgrinio hyn ar wefan Llywodraeth Cymru.  Bydd Atgyfnerthu Cydraddoldeb ac Amrywiaeth o fewn Dysgu Seiliedig ar Waith ar gyfer y cylch nesaf o gontractau yn thema barhaus.

 

Lle y codir materion entrepreneuriaeth neu ddiddordeb mewn sefydlu busnes yn ystod cyfweliadau Gyrfa Cymru â phobl ifanc ar arweiniad gyrfaol (neu ryngweithiadau eraill), rhoddir cyngor a chanllawiau addas iddynt, megis eu cyfeirio at y rhaglenni ategol a ddarperir gan DEST ac ati.  Mae cysylltiadau addas a gwybodaeth a chyngor cyffredinol ar yrfaoedd ar gael drwy  wefan Gyrfacymru.com ar gyfer cleientiaid sy'n dymuno hunanwasanaethu. 

 

5       Pa gyfleoedd a grëir drwy gynyddu entrepreneuriaeth ieuenctid fel ffordd o fynd i'r afael â diweithdra ac anweithgarwch ymhlith pobl ifanc?

 

Dosberthir y mwyafrif helaeth o gwmnïau sydd â phencadlys yng Nghymru yn fusnesau bach neu ganolig (BBaChau).  Fel y cyfryw efallai y bydd llawer o bobl ifanc yn mynegi awydd i gychwyn eu busnes eu hunain rywbryd yn y dyfodol ar ôl gweithio i BBaCh neu sefydliad mwy i fagu profiad a dysgu am y sector.  Felly mae sefydlu ysbryd entrepreneuraidd yn ifanc yn hau hadau ar gyfer y dyfodol.

 

Fel y pwysleisiwyd yng nghwestiwn 1, mae rhaglen Twf Swyddi Cymru yn darparu ar gyfer maes cyflawni i gefnogi pobl ifanc i ddod yn hunangyflogedig. 

 

Y Cynllun Gweithredu Ymgysylltu a Chyflogaeth Ieuenctid a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2011, i Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid Mae'r Fframwaith yn cael ei ddatblygu ar sail anghenion pobl ifanc, gan atgyfnerthu atebolrwydd asiantaethau gwahanol yn y system ar gyfer sicrhau canlyniadau gwell i bobl ifanc. 

 

Mae chwe thema yn y cynllun hwn ac un ohonynt yw "Cyflogadwyedd Pobl Ifanc".  Mae AdAS ar gam cynllunio cynnar o'r gwaith i gyflwyno cynnig Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) i weithredu ar gamau megis gwella darpariaeth ysgolion o'r fframwaith Gyrfaoedd a'r Byd Gwaith a gwella gwybodaeth pobl ifanc am y byd gwaith, gan feithrin sgiliau cyflogadwyedd a chodi dyheadau megis entrepreneuriaeth.  Bydd hyn yn cynnwys meithrin gallu ysgolion i gyflawni pethau fel pecynnau ymwybyddiaeth o entrepreneuriaeth na chânt eu cyflawni'n uniongyrchol mwyach gan Gyrfa Cymru ers i'w chylch gwaith gael ei ddiwygio ac ers iddi ddod yn is-gwmni dan berchenogaeth lwyr Llywodraeth Cymru ar 1af Ebrill 2013.  Cylch gwaith Gyrfa Cymru yn y maes hwn yw meithrin gallu partneriaid megis ysgolion i gyflawni. Bydd manylion cynnig ESF yn cael eu llunio drwy gyfres o weithdai yn ymgorffori pob partner perthnasol.

 

Mae AdAS hefyd yn gweithio gydag wyth Awdurdod Lleol ac yn treialu gwaith yn ymwneud â'r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid i ddatblygu a threialu ymagweddau effeithiol tuag at ymgysylltu a datblygu a rhoi tystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio a pham. Bydd y treialon hyn yn gyfle i brofi'r dull yn llawn a llywio'r gweithrediad terfynol ledled Cymru ym mis Medi 2013. Un o'r meysydd o fewn y Fframwaith hwn yw atgyfnerthu sgiliau cyflogadwyedd a chyfleoedd ar gyfer cyflogaeth.

 

Mae datblygu sgiliau, cymwyseddau a phriodoleddau ACRO (Agwedd, Creadigrwydd, Cydberthnasau a Threfn) yn ffyrdd effeithiol rhagorol o ymgysylltu â rhai sydd wedi ymddieithrio ac wedi eu dadrithio, yn yr un modd ag y byddai defnyddio deunyddiau Dynamo (adnoddau i athrawon a thiwtoriaid i gefnogi'r cwricwlwm, gan ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau ac agweddau entrepreneuraidd pobl ifanc).

 

Cyflwynwyd y model ACRO i ganolbwyntio ar yr agweddau, sgiliau ac ymddygiadau a oedd yn angenrheidiol i alluogi pobl ifanc i ddiwallu anghenion busnes yn yr 21ain ganrif.  Nododd ymchwil gychwynnol a wnaed gan Lywodraeth Cymru y nodweddion a ddangosir fel arfer gan entrepreneuriaid.  Mae'r model yn dadansoddi'r nodweddion gan eu rhannu yn bedwar dimensiwn allweddol ac fe'i crynhoir gan yr acronym ACRO - mae hwn yn cwmpasu'r holl agweddau pwysig ar ymddygiad entrepreneuraidd.

 

Yn y modd hwn, mae'n bosibl datblygu set o sgiliau ac agweddau mewn ffordd gyfannol a fyddai'n helpu pobl ifanc i wneud cynnydd da o ran dysgu a/neu gael cyflogaeth.

 

Gall datblygu'r sgiliau hyn hefyd arwain at gymwysterau mewn Sgiliau Allweddol/Hanfodol y mae cyflogwyr yn chwilio'n eiddgar amdanynt a all yn eu tro fagu hyder a hyrwyddo ymgysylltiad pellach.

 

6       I ba raddau y mae entrepreneuriaeth wedi ei hymgorffori mewn sefydliadau addysg uwchradd, addysg bellach ac addysg uwch yng Nghymru?

 

Mae Gyrfaoedd a'r Byd Gwaith (CWW) ac felly entrepreneuriaeth, a gynhwysir ynddo, wedi'i ymgorffori ym mhob rhan o gwricwlwm yr ysgol.  Mae rhaglenni astudio pob pwnc yn nodi cyfleoedd i blant a phobl ifanc ddysgu am CWW a sgiliau entrepreneuraidd allweddol yn barod ar gyfer eu bywydau gwaith yn y dyfodol.

 

Mae entrepreneuriaeth yn elfen allweddol o'r fframwaith CWW. Anogir ysgolion i ddarparu cyfleoedd i ddysgwyr ymchwilio i briodoleddau entrepreneuriaid a rôl mentergarwch wrth greu cyfoeth. Dylent hefyd ddarparu cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu eu gallu eu hunain i weithredu mewn ffyrdd entrepreneuraidd.

      

Cwblhaodd Estyn arolygiad thematig o'r modd y mae ysgolion yn cyflawni'r Fframwaith Cwricwlwm Gyrfaoedd a'r Byd Gwaith, a arweiniodd at yr adroddiad: Penderfyniadau Gwybodus: Gweithredu'r Fframwaith Gyrfaoedd a'r Byd Gwaith - Hydref 2012.  Tynnodd yr adroddiad hwn sylw at y gwaith da a wnaed gan Gyrfa Cymru i gefnogi gwaith ysgolion o gyflawni'r fframwaith ond nodwyd bod y ddarpariaeth yn amrywio.  Mae'r adroddiad hwn yn un o'r ffactorau ysgogi sy'n sail i sefydlu prosiect ESF i helpu ysgolion i wella eu darpariaeth ac felly entrepreneuriaeth a chyflogadwyedd pobl ifanc.

 

Bagloriaeth Cymru

Mae Cymhwyster Bagloriaeth Cymru yn cyd-fynd yn agos ag elfen Craidd Dysgu Llwybrau Dysgu. Bwriedir i Raglen Graidd Bagloriaeth Cymru ddarparu profiad mwy cyflawn sy'n paratoi dysgwr ar gyfer bywyd mewn teulu, cymuned a gweithle. Ar hyn o bryd mae'n cynnwys Sgiliau Allweddol/Hanfodol Cymru, Cymru, Ewrop a'r Byd, Addysg Gysylltiedig â Gwaith (gan gynnwys gweithgarwch menter), Addysg Bersonol a Chymdeithasol, ac ymchwiliad unigol

 

Mae Gyrfa Cymru yn gweithredu yn awr ar y cylch gwaith a bennwyd gan Weinidogion ar gyfer ei gweithrediad yn 2013-14. Mae'n cydnabod bod y cysylltiadau rhwng cyflogwyr ac addysg yn parhau i fod yn hanfodol a bydd angen gwella'r maes gwaith hwn yn y dyfodol. Bydd Gyrfa Cymru yn cefnogi ymgysylltiad cyflogwyr ag addysg ac yn darparu cymorth i ysgolion ac eraill feithrin gallu er mwyn helpu sefydliadau i ddatblygu'r fframwaith Gyrfaoedd a'r Byd Gwaith, gan gynnwys Nod (Ansawdd) Gyrfa Cymru a darpariaeth ysgolion o addysg fenter. Cafodd Gyrfa Cymru gyfarwyddyd i ymddieithrio oddi wrth ddarpariaeth uniongyrchol o weithgareddau megis menter i gleientiaid, gan mai cyfrifoldeb eraill megis ysgolion yw hyn, ac ymchwilio i waith partneriaeth ag aelodau eraill o'r 'teulu gyrfaoedd' gyda'r bwriad o feithrin gallu'r partneriaid hynny i gyflawni yn unol â'u cyfrifoldebau eu hunain.

 

7       Beth yw'r sail dystiolaeth ar gyfer dull Llywodraeth Cymru o gefnogi ac annog entrepreneuriaeth ieuenctid?

 

Gellir gweld y sail dystiolaeth ar gyfer dull Llywodraeth Cymru o gefnogi ac annog entrepreneuriaeth ieuenctid drwy'r atebion a roddir yn yr adroddiad hwn. 

 

Mae'r atebion yn dangos yn glir bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd entrepreneuriaeth ac ymgorffori diwylliant o fentergarwch yn ein strwythurau addysgol yng Nghymru. 

 

Mae Llywodraeth Cymru am sicrhau ei bod yn parhau i fod ar flaen y gad o ran addysg fenter a'i bod yn meithrin diwylliant o entrepreneuriaeth ymhlith pobl ifanc Cymru.  Fel y gwelwyd, mae cryn dipyn o weithgarwch eisoes yn cael ei wneud yn y maes hwn yng Nghymru.

 

8       Sut mae Llywodraeth Cymru yn monitro ac yn gwerthuso ei gweithgareddau entrepreneuriaeth ieuenctid?

 

Caiff Cynllun Gweithredu'r Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid (YES) ei fonitro'n gyson.

 

Mae gan Grŵp Swyddogion YES gyfrifoldeb am gamau gweithredu o fewn YES a rhennir y cyfrifoldeb hwn ar draws nifer o feysydd yn Llywodraeth Cymru.  Mae swyddogion arweiniol, gyda chyfrifoldeb penodol am gamau gweithredu YES, yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn.  Mae'r grŵp yn ystyried y cynnydd hyd yma, yn nodi meysydd o synergedd ac yn trafod y ffordd orau o ymgysylltu â'i gilydd a chyda rhanddeiliaid allanol ar Gynllun Gweithredu YES a datblygiadau yn y dyfodol.

 

Sefydlwyd Panel Cynllun Gweithredu YES yn 2011 i dderbyn diweddariadau ar gynnydd, darparu arweiniad ac arbenigedd strategol a rhoi cyngor ar y ffordd orau o adeiladu ar yr hyn sydd wedi'i gyflawni.  Yn dilyn proses ymgeisio gystadleuol agored, penodwyd 12 aelod brwdfrydig o'r panel. Maent yn cynnwys cynrychiolwyr o faes datblygu economaidd, entrepreneuriaid addysg, busnes a sefydliadau trydydd sector.  Mae Panel Cynllun Gweithredu YES yn cyfarfod bob chwarter.

 

O dan Twf Swyddi Cymru, mae'r maes "helpu pobl ifanc i ddod yn hunangyflogedig" hyd yn hyn wedi monitro 55 o bobl a fanteisiodd ar y bwrsari, gan ragori ar y targed o 50 ar gyfer y flwyddyn gyntaf a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2013.

 

Mae darparwyr hyfforddeiaethau yn chwilio am gyfleoedd i annog pobl ifanc i ystyried hunangyflogaeth fel opsiwn ac mae cymhwyster menter achrededig wedi ei gynnwys yn y rhaglen fel opsiwn.  Hyd yn hyn, mae'r niferoedd a aeth yn hunangyflogedig yn sgil rhaglen Hyfforddeiaeth 2011/12 fel a ganlyn:

 

·             Ymgysylltu - 10

·             Lefel 1 - 15

Cyfanswm – 25

 

Caiff Gyrfaoedd a'r Byd Gwaith ac entrepreneuriaeth eu harolygu fel rhan o Fframwaith Arolygu Cyffredin Estyn ac mae canllawiau i ysgolion uwchradd yn nodi: 

 

·             Y dylai arolygwyr asesu cydlyniaeth ac effeithiolrwydd y ddarpariaeth ar gyfer cymorth personol ac arbenigol. Mae rhaglen gyfarwyddyd gydgysylltiedig wedi'i strwythuro'n ofalus yn cynnwys addysg a chanllawiau ar yrfaoedd, a dylai ystyried y Fframwaith Addysg Bersonol a Chymdeithasol a Chanllawiau ar Yrfaoedd a'r Byd Gwaith.

 

Mae'r defnydd gorfodol o'r adnodd Tracio i fonitro a gwerthuso'r datblygiad o sgiliau a phriodoleddau meddalach fel rhan o'r rhaglen Hyfforddeiaeth yn darparu data ar y pellter a deithiwyd mewn perthynas â'r cynnydd hwn.

 

9       Pa effaith a gafodd hyn ar nifer y bobl sy'n cychwyn busnes?

 

Fel y nodwyd yn y cwestiynau uchod, gwnaeth y maes ar gyfer helpu pobl ifanc i ddod yn hunangyflogedig fonitro bod 55 o bobl hyd yma wedi manteisio ar y bwrsari, gan ragori ar y targed o 50 a bennwyd ar gyfer y flwyddyn gyntaf yn dod i ben ym mis Mawrth 2013.

 

10    Pa enghreifftiau o arfer da ym maes polisi entrepreneuriaeth ieuenctid y gellir eu nodi yng Nghymru, yn fwy eang yn y DU ac yn rhyngwladol?

 

Cynnwys Mentergarwch ac Entrepreneuriaeth o fewn y maes addysg yng Nghymru:

 

1     Gyrfaoedd a'r Byd Gwaith: fframwaith i bobl ifanc 11 i 19 oed yng Nghymru

2     Llwybrau Dysgu 14-19;

3     Bagloriaeth Cymru.

 

Cynnwys Mentergarwch ac Entrepreneuriaeth fel thema drawsbynciol.